Swnio’n Dda – Pecyn yr Ymarferydd

Swnio’n Dda – Pecyn yr Ymarferydd

Gadewch i’ch myfyrwyr wireddu’r freuddwyd! Dros nifer o sesiynau hyblyg, bydd y dysgwyr yn datblygu hanes band ffuglennol. Gan ddilyn trywydd y band o’i ffurfio hyd at enwogrwydd a chyfoeth, byddan nhw’n:

  • Dewis aelodau’r band
  • Cynllunio teithiau
  • Creu deunydd marchnata
  • Ysgrifennu geiriau i gân
  • Cyfrifo costau cynnal digwyddiad
  • Recordio cyfweliad radio.

Mae rhaglen Swnio’n Dda yn cynnwys llawlyfr yr ymarferydd, CD-ROM a phecyn o gardiau. Canllaw cam wrth gam yw’r llawlyfr ar gyfer cynnal y rhaglen a chaiff ei chyflwyno fel cyfres o gynlluniau sesiwn. Mae’r gweithgareddau ym mhob sesiwn wedi’u mapio i Gwricwlwm Llythrennedd a Rhifedd i Oedolion. Ar y CD-ROM ceir amrywiaeth o gemau, gweithgareddau a offer rhyngweithiol. Darperir set o 40 o gardiau cymeriadau er mwyn i’r bobl ifanc ddewis aelodau’r band.

Rydym wedi bod yn gweithio gydag Agored Cymru (Rhwydaith Coleg Agored Cymru gynt) i greu achrediad ar gyfer y fersiwn ddiwygiedig hon o Swnio’n Dda: Dilyn Trywydd y Band. Mae unedau ar Lefel Mynediad 3 wedi’u mapio i Gwricwlwm Llythrennedd a Rhifedd i Oedolion ac maent bellach ar gael yng nghronfa ddata Agored Cymru. Ceir manylion yr achrediad ar restrau’r unedau ar y wefan: www.agored.org.uk. Mae unedau ar Lefel Un yn cael eu hysgrifennu ar hyn o bryd ar gyfer Swnio’n Dda a byddant ar gael yn fuan.

Paratowyd y rhaglen hon ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae wedi’i seilio ar yr adnodd cyfoethogi gwreiddiol a ddatblygwyd gan ECOTEC Research and Consulting Ltd ac artistiaid ar ran Cyngor Celfyddydau Lloegr a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.

Os hoffech archebu’r cynnyrch hwn, llenwch ac anfonwch ffurflen archeb NDP.

Read what people say about this product:

There have been no reviews written for this product yet.
Be the first by adding your comments below.

You must log in or register to write a review about this product.